Hanes
Sut dechreuodd WATO?

Yn 2008, aeth Croeso Cymru ati, ar ran Llywodraeth Cymru, i gynnal cyfres o sioeau teithiol ar draws Cymru ar gyfer y sector awyr agored er mwyn cael barn busnesau ar y canlynol:

  • Sut mae gwella’r cysylltiad rhwng Croeso Cymru a busnesau yn y sector awyr agored?
  • Sut mae marchnata gweithgareddau awyr agored yn well?
  • Beth yw’r ffordd orau o sefydlu a rhannu arferion gorau gyda’r sector awyr agored yng Nghymru?
  • Beth yw’r ffordd orau o fynd ati i sicrhau bod gweithgareddau’n datblygu mewn ffyrdd sy’n gynaliadwy i fusnesau, i’r amgylchedd ac i gymunedau Cymru?

Yn y pedair sioe deithiol, gwelwyd bod tair rhwydwaith o ddarparwyr yn y sector awyr agored eisoes yn bodoli ac yn gweithredu yn rhanbarthau Cymru –  Snowdonia-Active (S-A), Grŵp Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru (SWOAPG) a Grŵp Siarter Awyr Agored Sir Benfro.  Daeth hi’n amlwg o’r hyn yr oedd gan y busnesau i’w ddweud yn y sioeau teithiol eu bod yn awyddus iawn i Croeso Cymru gydnabod a chefnogi’n swyddogol y rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli.

Daeth hi’n amlwg hefyd bod llawer o arferion gorau eisoes yn bodoli yn y rhanbarthau a thrwy ddod â chynrychiolwyr o’r tri grŵp rhanbarthol ynghyd, byddai’n bosibl rhannu arferion gorau a gwella’r cysylltiad rhwng y sector awyr agored a Croeso Cymru.

Sefydlwyd WATO ym mis Ebrill 2009 ac fe’i noddir gan Croeso Cymru.  Mae Croeso Cymru hefyd yn darparu gwasanaethau ysgrifenyddiaeth i’r fforwm yn ogystal â chyllid sy’n ei gynorthwyo i lunio cynlluniau gwaith blynyddol y cytunir arnynt.