WATO

Fforwm Cymdeithas Twristiaeth Anturiaeth Cymru

Mae fforwm Cymdeithas Twristiaeth Anturiaeth Cymru (WATO) wedi cael ei sefydlu i gysylltu sefydliadau yn nhri Pharc Cenedlaethol Cymru gyda’r nod o rannu ‘arferion gorau’ ar draws y sector gweithgareddau awyr agored. Mae Cymdeithas Twristiaeth Anturiaeth Cymru (WATO) yn gweithio ar lefel ranbarthol trwy Grŵp Siarter Awyr Agored Sir Benfro, Snowdonia-Active, Grŵp Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru a Thwristiaeth Bannau Brycheiniog.