Nodau

  

Mae gan WATO dri phrif nod:

    • Cyfathrebu
    • Marchnata a Chyhoeddusrwydd
    • Cynaliadwyedd

Cytuno ar gynlluniau gwaith blynyddol gan ddefnyddio’r themâu canlynol:

    • Gweithio yn y rhanbarthau er mwyn sicrhau bod yr holl fusnesau yno’n ymwybodol bod gweithio â Croeso Cymru yn gallu creu pob math o gyfleoedd a dangos iddynt sut i wneud hyn yn well ac yn amlach.  Drwy wneud hyn, bydd modd llunio cronfeydd data manwl iawn ar weithgareddau busnesau a sefydliadau ym mhob rhanbarth a bydd modd eu defnyddio gyda gwaith datblygu, marchnata, hybu ac i rannu arferion gorau.
    • Nodi bylchau mewn marchnata twristiaeth hamdden yng Nghymru a chydweithio â Chroeso Cymru’n bennaf a phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol eraill, er mwyn sicrhau bod y modd yr eir ati i farchnata gweithgareddau yn gyfredol ac yn integredig.  Mae bylchau yn ymddangos oherwydd bod y sector gweithgareddau yn ddeinamig ac mae’r rhwystrau y mae busnesau newydd yn gorfod eu goresgyn yn brin iawn felly gall cynhyrchion newydd flaguro’n sydyn iawn yn y rhanbarthau ac mae sefydliad rhanbarthol yn colli’r cyfle i hyrwyddo’r cynnyrch hwn yn genedlaethol.  Un enghraifft o hyn yw twristiaeth bywyd gwyllt morol yn Ne-orllewin Cymru.
    • Y cwmniau yn y rhanbarthau i rannu arferion gorau gyda chwmnïau cenedlaethol.  Er enghraifft, mae’r hyfforddiant y mae Sir Benfro’n ei gynnig yn gysylltiedig â chynaliadwyedd a materion amgylcheddol tra bo Bannau Brycheiniog wedi bod yn arwain ar system sy’n anfon e-bost mewn argyfwng.  Mae Snowdon-Active ar flaen y gad gyda chyfathrebu â’r sector a llunio cylchlythyrau effeithiol.  Mae cyfleoedd amlwg yma i’r rhanbarthau ddysgu oddi wrth ei gilydd ond eu bod yn parchu amrywiaeth pob rhanbarth hefyd.

Gweithio gyda Croeso Cymru i wella’r delweddau sydd ar gael i hybu a darparu gwybodaeth i’r sector twristiaeth hamdden. Bydd y ffordd hon o weithio yn rhagweithiol ac yn adweithiol; bydd y rhanbarthau’n ceisio darparu delweddau i Croeso Cymru a bydd cydweithwyr yn adolygu delweddau Croeso Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn briodol. O ran camau i’w gweithredu yn y rhanbarthau, mae gan Sir Benfro a Bannau Brycheiniog grwpiau ‘siarter awyr agored’. Gan nad oes grŵp o’r fath yn bodoli yn Eryri, byddai defnyddio’r modelau a ddefnyddir yn y De i sefydlu Grŵp o’r fath yn Eryri yn flaenoriaeth i’r rhanbarth.